Brought to you by
Llyr Floating Wind Ltd
DEDDF Y MÔR A MYNEDIAD I’R ARFORDIR 2009
RHEOLIADAU GWAITH MOROL (ASESU EFFEITHIAU AMGYLCHEDDOL) 2007
HYSBYSIAD O GAIS AR GYFER PROSIECT GWYNT ALLTRAETH ARNOFIOL LLŶR
Hysbysir drwy hyn fod Llŷr Floating Wind Limited wedi cyflwyno cais i Cyfoeth Naturiol Cymru (“CNC”) am drwydded forol i gynnal gweithgaredd a reoleiddir o dan Ddeddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009. Mae angen caniatâd asesu effeithiau amgylcheddol ar y prosiect ac mae'n destun gofyniad am asesiad o’r effeithiau amgylcheddol dan Reoliadau Gwaith Morol (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) 2007 (“y Rheoliadau Asesu Effeithiau Amgylcheddol”). Mae'r ymgeisydd wedi paratoi datganiad amgylcheddol.
Mae'r cais ar gyfer Prosiect Gwynt Alltraeth Arnofiol Llŷr. Mae’r Prosiect yn cynnwys adeiladu, gosod, gweithredu, cynnal a chadw a datgomisiynu dilynol hyd at 10 generadur tyrbin gwynt alltraeth arnofiol sydd tua 35 km oddi ar arfordir Sir Benfro yn y Môr Celtaidd.
Mae copïau o'r datganiad amgylcheddol a dogfennau eraill sy’n ofynnol gan y Rheoliadau Asesu Effeithiau Amgylcheddol ar gael i'w harchwilio gan y cyhoedd yn rhad am ddim yn ystod oriau swyddfa arferol yn
-
Cyngor Sir Penfro, Llyfrgell, Oriel a Chanolfan, Wybodaeth I Ymwelwyr Glan yr Afon, Oddi ar Sgwâr Swan, Hwlffordd, Sir Benfro SA61 2AN
-
Llyfrgell Doc Penfro, Stryd y Dŵr, Doc Penfro SA72 6DW
am gyfnod o 42 o ddiwrnodau o ddyddiad yr hysbysiad hwn.
Gallwch hefyd gael copïau o'r datganiad amgylcheddol a'r dogfennau uchod ar-lein o https://cofrestrgyhoeddus.cyfoethnaturiol.cymru/neu drwy e-bostio CNC yn permittingconsultations@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk. Gallwch chwilio am y dogfennau gan ddefnyddio'r cyfeirnod cais ORML2465.
Os gofynnir am gopïau caled o'r dogfennau uchod, efallai y bydd rhaid talu costau copïo nad ydynt yn fwy na chostau copïo rhesymol.
Dylai unrhyw un sydd am gyflwyno sylwadau ynghylch y cais a'r datganiad amgylcheddol wneud hynny'n ysgrifenedig i CNC trwy ysgrifennu at y Gwasanaeth Trwyddedu, Swyddfeydd Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Rhodfa’r Brenin Edward VII, Caerdydd, CF10 3NQ, neu drwy e-bostio marinelicensing@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk o fewn 42 o ddyddiadau i'r hysbysiad hwn. Dylai'r sylwadau fod wedi'u dyddio a dylid nodi'n glir enw (mewn priflythrennau) a chyfeiriad e-bost neu gyfeiriad post llawn y sawl sy'n cyflwyno'r sylwadau.
Dyfynnwch gyfeirnod ORML2465 yn eich holl ohebiaeth.
Eir i'r afael â sylwadau a dderbynnir gan aelodau'r cyhoedd yn unol ag Atodlen 5 y Rheoliadau Asesu Effeithiau Amgylcheddol. Caiff copïau o sylwadau ysgrifenedig a dderbynnir gan CNC eu hanfon at yr ymgeisydd ac efallai y byddant hefyd ar gael i'w gweld yn gyhoeddus.
Mae CNC yn awdurdod priodol dan y Rheoliadau Asesu Effeithiau Amgylcheddol ac mae wedi derbyn swyddogaethau dirprwyedig fel yr awdurdod trwyddedu priodol gan Weinidogion Cymru at ddibenion Rhan 4 Deddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009. Wrth benderfynu ar y cais, efallai y bydd CNC yn rhoi caniatâd ar gyfer y prosiect, yn rhoi caniatâd asesu effeithiau amgylcheddol ynghyd ag amodau, neu wrthod caniatâd asesu effeithiau amgylcheddol ar gyfer y prosiect.
Comments: Our rules
We want our comments to be a lively and valuable part of our community - a place where readers can debate and engage with the most important local issues. The ability to comment on our stories is a privilege, not a right, however, and that privilege may be withdrawn if it is abused or misused.
Please report any comments that break our rules.
Read the rules hereComments are closed on this article